Cynulliad Cenedlaethol CymruHeather logo portrait

Y Pwyllgor Busnes

Hydref 2012

Newidiadau arfaethedig i Reol Sefydlog 18 mewn perthynas ag aelodaeth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Diben

1.    Yn unol â Rheol Sefydlog 11.7(iv), mae'r Pwyllgor Busnes yn gyfrifol am wneud argymhellion ar arferion a gweithdrefnau cyffredinol y Cynulliad, gan gynnwys unrhyw gynigion ar ail-wneud neu newid y Rheolau Sefydlog.

2.    Mae'r adroddiad yn argymell un newid i Reol Sefydlog 18. Mae'r newidiadau y cytunodd y Pwyllgor Busnes arnynt i'w gweld yn Atodiad A, ac mae'r cynnig ar gyfer Rheol Sefydlog newydd i'w weld yn Atodiad B. 

Cefndir

3.    Yn ystod ei gyfarfod ar 25 Medi, bu'r Pwyllgor Busnes yn trafod papur a oedd yn amlinellu'r opsiynau ar gyfer newid Rheol Sefydlog 18 mewn perthynas ag aelodaeth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

4.    Ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ac Archwilydd Cyffredinol Cymru, dychwelodd y Pwyllgor Busnes at y mater hwn yn ystod ei gyfarfod ar 9 Hydref. 

Y darpariaethau presennol

Deddf Llywodraeth Cymru 2006

5.    Mae Adran 30(3) o'r Ddeddf yn datgan na chaiff unrhyw aelodau cyfredol o'r Llywodraeth fod yn aelodau o'r Pwyllgor Archwilio (a elwir y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn awr). Mae'r cyfyngiad hwn wedi'i adlewyrchu yn Rheolau Sefydlog 18.5 ac 18.7.

Y Rheolau Sefydlog

6.    Mae Rheol Sefydlog 18.8 yn mynd ymhellach na darpariaethau'r Ddeddf drwy osod cyfyngiadau ar gyfranogiad cyn aelodau'r Llywodraeth:

Ni chaiff aelod o’r Pwyllgor gymryd rhan yn ystyriaeth y Pwyllgor ar unrhyw fater os oedd yr aelod ar yr adeg berthnasol yn aelod o’r llywodraeth.

7.    Er nad yw hyn yn atal cyn Weinidogion rhag bod yn aelodau o'r Pwyllgor fel y cyfryw, yn ymarferol, byddai natur y materion y mae'r Pwyllgor Cyrfifon Cyhoeddus yn eu trafod yn ei gwneud yn anodd i unrhyw un a oedd yn aelod o'r Llywodraeth yn ystod y Trydydd Cynulliad eistedd ar y Pwyllgor.  Mae'n debygol y byddai gofyn cael dirprwyon rheolaidd.

8.    Mae Rheol Sefydlog 18.9 yn gosod cyfyngiad tebyg ar gyn aelodau'r Comisiwn neu Bwyllgor y Tŷ mewn perthynas â materion sy'n berthnasol i'r cyrff hynny.

9.    Nid yw Senedd yr Alban na Thŷ'r Cyffredin yn cyfyngu ar gyfranogiad cyn Aelodau yn y modd hwn.

Cynigion ar gyfer newid y drefn

10.Mae'r cyfyngiad hwn, ar ei ffurf bresennol, wedi peri problemau o ran y ffaith ei fod yn cyfyngu ar hyblygrwydd grwpiau pan fyddant yn neilltuo Aelodau i bwyllgorau. Felly, bu'r Pwyllgor Busnes yn trafod dau opsiwn ar gyfer llacio'r ddarpariaeth:

(1) dileu'r cyfyngiad yn gyfan gwbl

(2) llacio'r cyfyngiad i ddweud na chaiff Aelod gymryd rhan yn ystyriaeth unrhyw fater os mai ef neu hi oedd y Gweinidog a oedd yn uniongyrchol gyfrifol am y mater hwnnw ar yr adeg berthnasol.

11.Cytunodd y Pwyllgor ei fod yn ffafrio opsiwn 2, gan ei fod yn caniatáu i'r cyfyngiad gael ei lacio, a hynny mewn modd a fyddai'n caniatáu i gyn Weinidogion fod yn aelodau o'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ond yn eu hatal rhag cymryd ran yn broses o graffu ar fater yr oeddent yn uniongyrchol gyfrifol amdano. Wrth ymateb i'r Pwyllgor, dywedodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ac Archwilydd Cyffredinol Cymru eu bod yn ffafrio'r opsiwn hwn.

12. Os bydd Rheol Sefydlog 18 yn cael ei ddiwygio yn unol â'r cynnig, yr Aelod o dan sylw fydd yn gyfrifol am nodi os yw sefyllfa o'r math hwn sy'n berthnasol iddo ef neu hi wedi codi, a hefyd am wneud trefniadau dirprwyo angenrheidiol o dan Reol Sefydlog 17.48, lle bo hynny'n briodol.

Penderfyniad

13.Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y newidiadau i'r Rheolau Sefydlog ar 9 Hydref, a gwahoddir y Cynulliad i gymeradwyo'r cynigion, fel y maent wedi'u nodi yn Atodiad B.

Atodiad A

RHEOL SEFYDLOG 18 – Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Aelodaeth

18.5     Mae Rheolau Sefydlog 17.3 a 17.7 yn gymwys i’r Pwyllgor, ac eithrio bod yn rhaid iddo gynnwys o leiaf 5 aelod a dim mwy na 10 aelod ac na chaniateir i’r un person a bennir yn adran 30(3) o’r Ddeddf gael ei gynnig yn aelod o’r Pwyllgor.

Dim newid

Mae'r Rheol Sefydlog hon wedi'i chynnwys er hwylustod.

18.6     Mae Rheol Sefydlog 17.21 yn gymwys i’r Pwyllgor, ac eithrio bod yn rhaid iddo beidio â chael ei gadeirio gan Aelod sy’n aelod o grŵp gwleidyddol a chanddo rôl weithredol.

Dim newid

Mae'r Rheol Sefydlog hon wedi'i chynnwys er hwylustod.

18.7     Mae Rheol Sefydlog 17.48 yn gymwys i’r Pwyllgor, ac eithrio na chaniateir i’r un person a bennir yn adran 30(3) o’r Ddeddf gael ei enwebu yn gynrychiolydd.

Dim newid

Mae'r Rheol Sefydlog hon wedi'i chynnwys er hwylustod.

18.8     Ni chaiff aelod o’r Pwyllgor gymryd rhan yn ystyriaeth y Pwyllgor ar unrhyw fater os mai ef neu hi oedd yr aelod o’r llywodraeth a oedd yn uniongyrchol gyfrifol am y mater hwnnw ar yr adeg berthnasol.

Newidiwch y Rheol Sefydlog hon

Bydd y newid arfaethedig hwn yn llacio'r cyfyngiad er mwyn sicrhau mai dim ond i gyn aelod o'r llywodraeth a oedd yn uniongyrchol gyfrifol am y mater o dan sylw y mae'n gymwys.

18.9     Ni chaiff aelod o’r Pwyllgor gymryd rhan yn ystyriaeth y Pwyllgor ar unrhyw fater a oedd o fewn cyfrifoldeb Pwyllgor y Tŷ (fel yr oedd wedi’i gyfansoddi rhwng 18 Rhagfyr 2002 a 2 Mai 2007), neu sydd o fewn cyfrifoldeb y Comisiwn, os oedd yr aelod ar yr adeg berthnasol yn aelod o Bwyllgor y Tŷ neu o’r Comisiwn.

Dim newid

Os ffafrir yr opsiwn hwn, ni chynigir unrhyw newid i'r Rheol Sefydlog hon.

14.    

Atodiad B